Yr Union 10

Yr Union 10

Regular price
£0.99
Sale price
£0.99
Regular price
£1.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Deg Gorchymyn ar Gyfer Heddiw
  • Awdur: Gwyn Davies
  • Lluniau a sylwebaeth 'Co Bach' gan D. Alwyn Owen
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1990
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 1 85049 075 9
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 55

Mae pawb yn gwybod y Deg Gorchymyn. Neu, o leiaf, mae pawb yn gwybod ambell un ohonynt - 'Na ladd', neu 'Na ladrata', er enghraifft. 

Ond y cwestiwn sy'n codi yw hwn: pam y mae Duw wedi rhoi'r Deg Gorchymyn i ni? Mae'n gwestiwn pwysig, oherwydd nid yw Duw yn arfer gwneud pethau heb fod rhyw reswm arbennig ganddo. 

Beth oedd ei fwriad wrth roi'r Deg Gorchymyn, felly? Ai dim ond i ladd ar bob hwyl a sbri? Ai er mwyn perswadio pobl i fyw yn barchus? Ai er mwyn i Dad neu Mam cael achos i'n bygwth am ryw ddrygioni neu'i gilydd pan oeddem yn fach? 

Mae'n anodd credu hynny, ryswut. Mae'r llyfr hwn yn cynnig ateb arall: mae'r Deg Gorchymyn i fod yn rhyw fath o ddrych i ni - a phan edrychwn yn y drych fe gawn weld pethau sy'n hynod o bwysig...