Yr Efengyl yn y Wladfa

Yr Efengyl yn y Wladfa

Regular price
£1.49
Sale price
£1.49
Regular price
£2.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

  • Awdur: Robert Owen Jones
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1987
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 1 85049 038 4
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 56

Yn 1865 hwyliodd y fintai gyntaf o Gymru i Batagonia yn Ne America i sefydlu Gwladfa Gymreig yno. 'Hanes arwriaeth' yw disgrifiad Saunders Lewis o'r ymgais hon i sefydlu Cymru rydd Gymraeg ym mhen draw'r byd. Yn wyneb anawsterau aruthrol, llwyddodd yr arloeswyr i ddatblygu'r wlad yn fasnachol ac amaethyddol. Ar y llaw arall, methiant yn y diwedd fu eu hymgais i greu talaith Gymreig a Chymraeg y tu mewn i wladwriaeth Ariannin. 

Ond er i'r gymuned Gymraeg wanychu yn ystod y ganrif hon, gan ymdoddi'n raddol i'r gymdeithas Sbaeneg ei hiaith a ddatblygasai o'i chwmpas, y mae yn aros eto ymwybyddiaeth freg o'r gwreiddiau Cymreig. Mae llawer yno hefyd sydd o hyd yn medru'r Gymraeg ochr-yn-ochr â'r Sbaeneg, a nifer ohonynt yn addoli'n rheolaidd yn yr iaith. 

Yn y ddarlith hon gan Dr. Robert Owen Jones, cawn gipolwg ar hanes Cristnogaeth yn y Wladfa dros y blynyddoedd. Mae'n hanes hefyd sy'n ddrych mewn llawer ffordd o ddatblygiad crefydd yng Nghymru yn yr un cyfnod. Yn y ddarlith, dangosir fod haen grefyddol bwysig i'r anturiaeth wreiddiol a dangosir hefyd y modd y nu'r elfen grefyddol yn gwbl allweddol yn natblygiad yr iaith Gymraeg a'r bywyd cymdeithasol yno.