Yng Nghysgod y Gorlan

Yng Nghysgod y Gorlan

Regular price
£0.99
Sale price
£0.99
Regular price
£1.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Damhegion o fyd y fferm
  • Awdur: Mari Jones
  • Darluniau: Rhiain M. Davies a Pat Ware
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1979
  • Cyhoeddwr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 0 900898 36 4
  • Tudalennau: 56

Pan gyhoeddwyd cyfrol gyntaf Mari Jones, Trwy Lygad y Bugail, ysgrifennwyd gair o gyflwyniad iddi gan Dr. Martyn Lloyd-Jones. Ond prin bod angen cyflwyniad i'r ail gasgliad hwn o ysgrifau, oherwydd y mae Mari, ei gŵr John a'u fferm 'Brynuchaf' yn Llanymawddwy bellach wedi ennill eu lle yng nghalonnau miloedd o ddarllenwyr, a'r darllenwyr hynny, trwy'r cyfieithiad Saesneg o'i chyfrol cyntaf, erbyn hyn yn ymestyn dros lawer gwlad ar draws y byd. 

Yn debyg i'w ragflaenydd, casgliad o ysgrifau o fyd y fferm yw Yng Nghysgod y Gorlan. Ceir ynddynt ddarlun byw a chofiadwy o fywyd fferm defaid mynyddig a fydd yn swyno'r darllenydd. Ond yn bwysicach fyth, ceir ynddynt berlau ysbrydol a fydd yn argyhoeddi, yn goleuo ac yn calonogi hen ac ifanc fel ei gilydd.  

A collection of parables from life on a mountain sheep farm.