- Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth
- gan R. Geraint Gruffydd
- Wedi eu dethol a’u golygu gan E. WYN JAMES
- ISBN 978-1-85049-267-2
- 318pp
- £14.99
- Clawr meddal
Yn 2008 cyhoeddwyd Y Ffordd Gadarn, casgliad o ysgrifau byrion yr Athro R. Geraint Gruffydd ar lên a chrefydd o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Rhoddwyd croeso brwd i’r llyfr hwnnw. ‘Mae’r gyfrol yn wych o ran cynnwys ac arddull’, meddai un adolygydd, ac ym marn un arall, ‘Fe fydd ei darllen yn cyfoethogi bywyd pawb.’
Casgliad o erthyglau pwysicaf yr Athro Gruffydd ar y cyfnod rhwng tua 1640 ac 1900 yw’r gyfrol bresennol. Ynddi cawn drafodaethau golau ar rai o awduron mwyaf arwyddocaol y Gymraeg, gan gynnwys Morgan Llwyd, Williams Pantycelyn, Ann Griffiths a Daniel Owen.
Fel Y Ffordd Gadarn o’i blaen, mae’r gyfrol hon yn gyfuniad nodedig o ysgolheictod disglair, dawn dweud ac argyhoeddiad Cristnogol dwfn. Dyma lyfr dwys a difyr sy’n gyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o hanes, llenyddiaeth a chrefydd Cymru yn y cyfnod modern.
Yr oedd R. Geraint Gruffydd (1928–2015) yn un o ffigyrau amlycaf bywyd diwylliannol Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Bu’n Athro’r Gymraeg yn y Brifysgol yn Aberystwyth, yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru ac yn Gyfarwyddwr cyntaf Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Cyflawnodd waith ymchwil o’r radd flaenaf, gan gyhoeddi gweithiau o bwys ar bob cyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.
Cyn iddo ymddeol yr oedd E. Wyn James yn Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Cynnwys
- Rhagymadrodd (E. Wyn James)
- R. Geraint Gruffydd: Teyrnged (E. Wyn James)
- William Wroth a Chychwyniadau Anghydffurfiaeth yng Nghymru
- Morgan Llwyd
- Gwrando ar Charles Edwards
- Diwygiad 1762 a William Williams o Bantycelyn
- Diwygiad Llangeitho a’i Ddylanwad
- Drws y Society Profiad Pantycelyn
- Marwnadau William Williams, Pantycelyn
- John Thomas, Tre-main: Pererin Methodistaidd
- Cefndir Meddyliol a Diwinyddol Cyfnod Ann Griffiths
- Ann Griffiths: Llenor
- Diwygiad 1859 yng Nghymru
- Daniel Owen a Phregethu
- Epilog: Cenadwri Diwygiad 1904–05
- Llyfryddiaeth yr Athro R. Geraint Gruffydd, 1996–2015 (Huw Walters)
- Atodiad: Rhestr o Awduron y Golofn Farddol ‘Twf Tafod’ (Huw Walters)