- Awdur: Emyr Roberts
- Dyddiad Cyhoeddi: 1980
- Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
- ISBN: 0 900898 46 1
- Clawr Meddal
- Tudalennau: 61
Oes ansicr a therfysglyd yw ein hoes ni, oes o wacter ac anobaith i gymaint o bobl. Ond ynghanol y cyfan, yn graig gadarn, fe saif y ffydd Gristnogol. Dyma'r neges a ymddiriedwyd i'r eglwys Gristnogol i'w chyhoeddi a'i dysgu o oes i oes fel yr unig wir ateb i anghenion a phroblemau dynion.
Ond beth yn union yw'r ffydd hon? Erbyn heddiw mae lle i gredu bod llaweroedd yn ein gwlad - hyd yn oed ymhlith aelodau eglwysig - heb syniad clir o'r hyn ydyw.
Yn y gyfrol hon, ymdrinir â rhai o brif faterion y grefydd Gristnogol yn syml ac yn ddiddorol; prin y gellid cael gwell arweiniad i'r maes na'r llyfr hwn. Gobeithir y bydd yn foddion i Gristnogion amgyffred yn llawnach y ffydd a roddwyd iddynt, ac y bydd o gymorth i'r sawl sy'n chwilio am graig i ddringo arni o gors ein hoes wag a chythryblus.