Ysgrifau ar Len a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd
- gan R Geraint Gruffydd (Gol E Wyn James)
- 341tud.
- Clawr Meddal.
- ISBN 978-1-85049-230-6
- RRP £14.95
Ceir yn y gyfrol hon ddetholiad o ysgrifau poblogaidd un o ffigyrau amlycaf y bywyd diwylliannol Cymraeg heddiw. Yn ogystal â bod yn ysgolhaig o’r radd flaenaf, mae’r awdur hefyd yn Gristion o argyhoeddiad dwfn, ac y mae llawer o’i waith yn canolbwyntio ar ddadansoddi a dehongli’r dreftadaeth Gristnogol Gymraeg. Gyda rhagair gan Bobi Jones.
Yn Y Ffordd Gadarn – Ysgrifau am Fyd Llên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd ceir detholiad o ysgrifau poblogaidd un o ffigyrau amlycaf y bywyd diwylliannol Cymraeg heddiw. Yn ogystal â bod yn ysgolhaig o’r radd flaenaf, mae’r awdur hefyd yn Gristion o argyhoeddiad dwfn, ac y mae llawer o’i waith yn canolbwyntio ar ddadansoddi a dehongli’r dreftadaeth Gristnogol Gymraeg. Mae tair rhan i’r gyfrol. Yn yr adran gyntaf trafodir materion y gellir eu galw’n ‘uniongyrchol grefyddol’. Yn yr ail cawn ysgrifau ar wahanol agweddau ar lên a diwylliant Cristnogol Cymru o’r Diwygiad Protestannaidd ymlaen. Casgliad o ysgrifau mwy personol eu natur yw’r adran olaf, yn cynnwys teyrngedau i nifer o gydweithwyr a chyfeillion yr awdur. Golygydd y gyfrol yw Dr E. Wyn James, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a cheir rhagymadrodd gan yr Athro Bobi Jones.