Darllen a deall y newyddion da am y Brenin Iesu
- gan Emyr James
- 117tud.
- Clawr Meddal
- ISBN 978-1-85049-242-9
- RRP £4.50
“Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw…”
Dyma’r ffordd mae Marc yn dechrau ei lyfr o newyddion da am fywyd Iesu Grist. Mae’r llyfr hwnnw yn ateb y ddau gwestiwn pwysicaf y gallai unrhyw un byth eu gofyn, sef pwy yw Iesu a pham y daeth ef i’r byd. Mae’r gyfrol bresennol yn rhannu Efengyl Marc yn gyfres o astudiaethau byr sy’n cynnwys testun yr Efengyl ei hun ynghyd â sylwadau esboniadol hawdd eu deall a chwestiynau i’ch annog i feddwl ymhellach. Wrth ddilyn y gyfres hon o astudiaethau dyddiol, fe fyddwch nid yn unig yn datblygu’r arfer pwysig o ddarllen Gair Duw, ond fe fyddwch hefyd yn gweld Iesu yn gwneud y pethau mwyaf rhyfeddol, annisgwyl a gwych, ac yn dod i ddeall yn well pam y mae e’n berthnasol i’ch bywyd chi heddiw.