Cyfres o Astudiaethau Ymarferol o'r Beibl
- Awdur: Undeb Cristnogol Cymraeg Aberystwyth
- Dyddiad Cyhoeddi: 1973
- Clawr Meddal
- Tudalennau: 35
O'r rhagair:
Pwrpas y llyfryn hwn yw ceisio chwalu'r anwybodaeth am neges y Beibl sydd yn ein gwlad, trwy gyflwyno mewn ffordd syml a threfnus ddysgeidiaeth yr Ysgrythur ar rai materion pwysig. Gwelwyd angen yma yn Aberystwyth am lyfr o'r math i gynorthwyo cenhedlaeth o fyfyrwyr Cymraeg sy'n dangos diddordeb newydd mewn Cristnogaeth. Credwn hefyd y gall fod o ddefnydd ehangach. Gwelwn ef yn fan cychwyn i oedolion sydd ag awydd chwilio'r Ysgrythurau; gellid ei ddefnyddio hefyd, o dan gyfarwyddyd athro, gyda dosbarthiadau o blant a phobl ifainc yn yr Ysgol Sul.