Ennill Cymru i Grist

Ennill Cymru i Grist

Regular price
£1.49
Sale price
£1.49
Regular price
£2.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Anerchiadau a draddodwyd yng Nghynhadledd Flynyddol Mudiad Efengylaidd Cymru yn Aberystwyth, Awst 1998, ar achlysur hanner canmlwyddiant gaith y Mudiad.
  • Awdur: Gwynn Williams
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1999
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 1 85049 163 1
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 72

Sut mae'r Eglwys i wneud ei gwaith heddiw? Ble yn union y mae ei gwendidau a ble mae angen cryfhau? Ble mae'r frwydr wrth wynebu mileniwm newydd? A ddylid gwneud rhywbeth ar wahân i obeithio a gweddïo am adfywiad? 

Dywedodd un hanesydd wrth astudio bywyd yr Eglwys yn y tair canrif gyntaf i'r Cristnogion y pryd hwnnw lwyddo i'r fath raddau syfrdanol am iddynt ragori mewn pedwar maes: meddwl yn ddyfnach ac yn lletach na'u cydoeswyr; cyhoeddi eu neges fawr yn fwy brwdfrydig a chlir a phendant; arddangos grym rhyfeddol cariad yn fwy amlwg, a bod yn barod i dalu'r pris am hyn oll mewn aberth a pharodrwydd i ddioddef erlid a gwawd. 

Dadleua'r awdur o'r Ysgrythur mai dyma'r bedair her i ninnau heddiw. Ni all neb a glywodd yr anerchiadau sy'n sail i'r llyfr hwn eu hanghofio yn hawdd iawn.