Diwygiad Crefyddol 1904-05

Diwygiad Crefyddol 1904-05

Regular price
£1.95
Sale price
£1.95
Regular price
£3.95
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

  • Awdur: Eifion Evans
  • Dyddiad Cyhoeddi: 2002
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 1 85049 193 3
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 55

 

I'r rhan fwyaf erbyn hyn mae'r James Bond a'r rhif 007 yn fwy ystyrlon na Joseph Jenkins, R. B. Jones, Evan Roberts a'r rhifau 04-05. Ond yn y ddwy flynydd 1904-05 digwyddodd rhywbeth yng Nghymru - yn y de a'r gogledd - a oedd yn fwy cyffrous, yn fwy arwyddocaol yn ddyfnach ei effaith ac yn ehangach ei ddylanwad na dim a ddigwyddodd ar dudalennau From Russia with Love neu Tomorrow never Dies

A'r peth hwnnw? Diwygiad ysbrydol grymus, symudiad nerthol o eiddo'r Ysbryd Glâan, 'Eneidiau'n troi, Duw yn trin/Agoriad calon gwerin.' Yn y llyfryn amserol hwn mae Eifion Evans, arbenigwr ar hanes diwygiad, yn adrodd yr hanes eto - yr hiraeth am ddiwygiad cyn 1904 ymhlith eglwysi Cymru, y dechreuadau yn Ceinewydd, Rhosllanerchrugog, Rhydaman a mannau eraill, cyfraniad Evan Roberts o Dachwedd 1904 ymlaen, a'r problemau a gwyd pan fo elfennau dynol a niwiediol yn gymysg â gwir waith yr Ysbryd. 

Yn ogystal ceir ymdriniaeth â'r pwn o 'Ddiwygiad' a'r angen heddiw yn y sefyllfa grefyddol argyfyngus. Dyma sylwasau Griffith Jones, Llanddowror cyn Diwygiad Mawr y ddeunawfed ganrif: 'y mae lle gennym i ofni bod Duw yn cefnu ar ein gwlad...fe ddylem...erfyn arno i ddychwelyd atom a thrigo eto yn ein plith.'