Diwinydda Ddoe a Heddiw

Diwinydda Ddoe a Heddiw

Regular price
£4.99
Sale price
£4.99
Regular price
£14.95
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

  • Golygwyd gan Iwan a Julie Rhys Jones
  • 185tud.
  • Clawr Meddal.
  • ISBN 978-1-85049-243-6
  • RRP £14.95

Mae’r llyfr Diwinydda Ddoe a Heddiw yn gasgliad o ysgrifau yn ymdrin â phynciau amrywiol o ddiddordeb diwinyddol a beiblaidd. Er bod sawl un o’r ysgrifau yn dyst i ddiwinydda a fu, maent yn ffrwyth ystyriaeth gyfredol.

Tabl Cynnwys:
Y 5 ysgrif a geir yn y gyfrol yw (ynghyd a’r awduron):
– Athrawiaeth yr Ysgrythur yng Ngeiriadur Thomas Charles – Geraint Lloyd
– Yr Annibynwyr Cymraeg a Chyffesion – Noel Gibbard
– Y Beibl Cymraeg Newydd: Cyfraniad Y Gweithgor Efengylaidd – Iwan Rhys Jones
– Adfywiad 1858-60 – Gwyn Davies
– Hanes Cynhadledd y Bala/Dylanwad Martyn Lloyd-Jones – Eryl Davies

Gwybodaeth Bellach:
Ymhlith yr ysgrifau ceir:
– trafodaeth ar agwedd ar eiriadur Thomas Charles, a gyhoeddwyd yn wreiddiol dau gan mlynedd yn ôl. (Bydd yr ysgrif o ddiddordeb yn wyneb y ffaith ei bod hi hefyd eleni yn ddau gan mlynedd oddi ar ordeinio gweinidogion cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd, bellach Eglwys Bresbyteraidd Cymru.)
– ymdriniaeth ar gyfraniad y Gweithgor Efengylaidd i argraffiad diwygiedig Y Beibl Cymraeg Newydd, pwnc sydd heb ei drafod cyn hyn.
– trafodaeth ar ddylanwad syniadau a dulliau’r Americanwr Charles Finney ar ddiwygiad 1858-60 yng Nghymru.
– trafodaeth ar berthynas yr Annibynwyr a Chyffesion.