Daw'r Wennol yn ôl

Daw'r Wennol yn ôl

Regular price
£1.99
Sale price
£1.99
Regular price
£3.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Trydydd casgliad o ddamhegion o fyd y fferm
  • Awdur: Mari Jones
  • Darluniau: Rhiain M. Davies a Ruth Myfanwy
  • Ffotograffau: W. Arvon Williams
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1992
  • Cyhoeddwr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 9781850491064
  • Tudalennau: 88

Dyma'r trydydd casgliad o ysgrifau o law Mari Jones o Frynuchaf, Llanymawddwy, awdur Trwy Lygad y Bugail ac Yng Nghysgod y gorlan, dau lyfr gyda'r mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd yn y Gymraeg yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Y tro hwn mae'r diddordeb a'r pwyslais yn ehangu ryw ychydig o fyd defaid a chŵn a bugail i gynnwys byd natur yn gyffredinol, byd y griafolen, gwas y neidr, y wennol, y frân dyddyn a'r aderyn hardd a phrin hwnnw, y barcut coch. 

Yn y gyfrol hon eto fe'n tywysir yn fyw a diddorol - gyda help John y gŵr - i fywyd y fferm fynyddig a'i gweithgareddau ac i ryfeddodau lletach byd natur, gan ein harwain yn gynnol ond yn afaelgar at y Crewr sydd y tu ôl i'r cyfan.

Nid oes angen proffwyd i fedru dweud y bydd yr ysgrifau hyn, fel y rhai blaenorol - a dyfynnu geiriau Martyn Lloyd-Jones am ei llyfr cyntaf - 'yn goleuo'r meddwl, yn deffro'r dychymyg ac yn symud y galon'.   

A collection of parables from life on a mountain sheep farm.