- Awdur: Bobi Jones
- Dyddiad Cyhoeddi: 1994
- Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
- ISBN: 1 85049 116 X
- Clawr Meddal
- Tudalennau: 135
Beth yw'r cyfraniad cymdeithasol mwyaf y gall cymru ei roi i'r byd heddiw? Yr ateb, yn ôl Bobi Jones, yw 'arweiniad Cristnogol ar ystyr cenedl'. A dyna a wna yntau yn y gyfrol hon. Tybed, yn wir, a oes cyfrol mewn unrhyw iaith sy'n trafod perthynas Cristnogaeth a chenedlaetholdeb mor drwyadl ag a wneir yma? Ac wrth wneud, teflir goleuni hefyd ar yr osgo Cristnogol cywir tuag at faterion megis gwleidyddiaeth, torcyfraith, diwylliant, a gwaith beunyddiol. Caffaeliad ychwanegol yw'r drafodaeth gyfoethog ar waith Gwenallt.
Mae hon yn gyfrol o bwys i bob Cristion o Gymro. Y mae o'r pwys mwyaf hefyd i bawb sydd k buddiannau Cymru yn agos at eu calon, oherwydd fel y dywed yr awdur, 'Nid oes fawr werth i ddyfodol y genedl heb iddi glymu ei gwladgarwch rywfodd wrth seiliau ysbrydol.'
'Mae deunydd rhagorol yn y gwaith hwn a deunydd sydd wedi ei drafod yn feistraidd. Gwn y bydd yn ysgogi trafodaeth fywiog ac yn bydd yn gyfraniad nodedig.' - R. Tudur Jones.