Yr Eglwys Gristnogol

Yr Eglwys Gristnogol

Regular price
£0.99
Sale price
£0.99
Regular price
£1.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

- Astudiaeth Feiblaidd. 
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1966
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 32

O'r rhagair: 

Rhoddwyd llawer iawn o sylw yn ystod y blynyddoedd diwethaf am bwnc Undeb Cristnogol. Er fod hyn yn wir am wledydd cred i gyd, nid yw'n llai gwir am ein gwlad ni ein hunain. Y mae cynllun yn awr yn cael ei ystyried gan yr Eglwysi a fuasai, pe derbynid ef, yn dwyn ynghyd nifer o enwadau i ffurfio Eglwys Unedig Cymru. 

Oherwydd eu bod o'r argyhoeddiad y dylid cloriannu pob trafod ar y mater pwysig hwn, a phob argymhelliad a wneir ynglŷn â threfniadaeth weledig yr Eglwys, yng ngoleuni y Testament Newydd, ers rhai blynyddoedd neilltuodd y Cymdeithasau Gweinidogion a Chynhadleddau blynyddol i Weinidogion a drefnir dan nawdd Mudiad Efengylaidd Cymru, ran helaeth o'u hamser i astudio'n ofalus ddysgeidiaeth yr Ysgrythur ar natur yr Eglwys, ei gweinidogaeth a'i sacramentau. [...]

Felly, ymgais yw'r datganiad canlynol, a gyhoeddir yn enw'r Gynhadledd, i amlinellu dysgeidiaeth y Testament Newydd ar natur yr Eglwys. Ymdrinir ag egwyddorion sylfaenol a'r ffordd y dylid eu rhoi mewn gweithrediad. Er fod cwestiynau ynglŷn â'r weinidogaeth a bedydd eto i'w datrys, ar y pynciau hyn, fel ar bob agwedd arall i'r pwnc holl-bwysig hwn, gobeithiwn y bydd i'w gyhoeddi gynorthwyo pob Cristion yn ein gwlad i ddeall yr hyn sydd yn y fantol. Boed i Dduw ei ddefnyddio er lles Ei bobl, lledaeniad Ei deyrnas a gogoniant Ei enw.