Y Nefoedd

Y Nefoedd

Regular price
£1.99
Sale price
£1.99
Regular price
£3.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Sylwedd anerchiadau a draddodwyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Mudiad Efengylaidd yn Aberystwyth, Awst 1992.
  • Awdur: Gwynn Williams
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1994
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 1 85049 115 1
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 56

 

Y nefoedd - fyddwch chi yno? Sut le ydyw? Sut mae edrych ar bleserau a gwaith yng ngoleuni'r gwynfyd sydd yn aros credinwyr? Dyna rai o'r materion, ymhlith eraill, a drafodir yn yr anerchiadau hyn. 

Cyhuddiad poblogaidd yw y gall fod dyn â'r fryd gymaint ar y nef fel nad yw o fawr les i'r ddaear hon ac i'w gyd-ddyn. Ond 'dywed hanes wrthym mai'r Cristnogion a wnaeth fwyaf ar gyfer y byd hwn, hwy oedd yr union rai a fu'n myfyrio fwyaf am y byd arall.' Dyna eiriau C.S. Lewis, ac mae'r llyfryn hwn am y nefoedd, yn hytrach na'n swcro i hamddena'n bietistaidd mewn cadair freichiau, yn ein sbarduno i addoliad a gwasanaeth.