Hanes Mary Jones a dechreuadau Cymdeithas y Beibl
- Awdur: Elisabeth Williams
- Dyddiad Cyhoeddi: 1988
- Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
- ISBN: 1 85049 49 X
- Clawr Meddal
- Tudalennau: 18
Yn 1784, mewn dyffryn prydferth wrth droed Cadair Idris, ganed Mary Jones, un o ferched enwocaf Cymru. Mae'r hanes amdani'n cerdded yn droednoeth i'r Bala i nôl Beibl wedi creu argraff ddofn ar lawer - ac nid yng Nghymru yn unig, ychwaith, oherwydd adroddir y stori bellach ar draws y byd ac mewn llawer iaith.
Tyfodd chwedlau o'i chwmpas, hefyd, wrth i'w stori gael ei hadrodd drosodd a thro. Yn y llyfr hwn tynnir ar y ffynonellau mwyaf dibynadwy, gan gynnwys atgofion pobl a'i hadwaenai'n dda, er mwyn creu portread byw o Mary Jones a'i chefndir. A gwneir hynny nid yn unig mewn geiriau ond hefyd trwy gyfrwng toreth o luniau.
Dyma lyfr a fydd yn sicr at ddant hen ac ifanc.