- gan GWYN DAVIES.
- 63tud.
- Clawr Meddal.
- ISBN 978-1-85049-246-7
- RRP £4.50
Mae’r llyfryn hwn yn un o gyfres sy’n rhannu llyfrau’r Beibl yn unedau hwylus ar gyfer darlleniadau dyddiol, ac yn cynnig nodiadau esboniadol a defosiynol ar bob darn. Mae defnydd posibl y llyfrynnau hyn yn helaeth iawn. Er enghraifft, gellir defnyddio’r nodiadau:
- fel arweiniad ar gyfer myfyrdod personol cyson neu achlysurol. (Ymhob llyfryn, ceir digon o ddarlleniadau dyddiol ar gyfer deufis llawn.)
- fel darlleniadau ar gyfer defosiwn teuluaidd.
- fel esboniad syml a darllenadwy ar un o lyfrau’r Beibl.
- fel canllawiau ar gyfer dosbarthiadau Beiblaidd neu ddosbarthiadau Ysgol Sul.
Ac ar ben hyn oll, fe dyf y gyfres o lyfryn i lyfryn i fod yn esboniad syml, clir a defosiynol, ar y Beibl cyfan.
Dyma fuddsoddiad ysbrydol gwerthfawr i’r holl deulu.