Arian ei Arglwydd

Arian ei Arglwydd

Regular price
£1.49
Sale price
£1.49
Regular price
£2.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

  • Awdur: Sulwyn Jones
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1983
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 0 900898 86 0
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 20

 Nid oes modd dianc rhag yr holl sôn am arian sydd o'n cwmpas byth a beunydd - am gyflog a chymhorthdal, am chwyddiant a chyni, am gyflwr y bunt a rhagolygon yr economi, am log a benthyciad, ac yn y blaen. Prin bod yr un pwnc y mae mwy o siarad amdano ym mhobman bron - ac eithrio mewn cyd-destun Cristnogol efallai, oherwydd at ei gilydd braidd yn dawedog yw Cristnogion i sôn am arian, wrth drafod pethau'r ffydd o leiaf. 

Pryd y clywsoch bregeth, er enghraifft, ar ddyletswydd y Cristion mewn perthynas ag arian, neu pa bryd y buoch mewn dosbarth beiblaidd neu seiat lle yr astudiwyd dysgeidiaeth y Gair ynghylch ein defnydd o arian? Ac mae hynny'n rhyfedd braidd, o gofio gymaint o sôn sydd yn y Beibl am arian - mae tua un o bob chwe adnod yn Efengylau Mathew, Marc a Luc yn ymwneud ag arian, er enghraifft, ac yn agos at hanner damhegion yr Arglwydd Iesu yn delio â defnydd priodol neu amhriodol o arian. 

Mae'r llyfr bach defnyddiol hwn yn trafod un agwedd arbennig ar yr hyn sydd gan y Gair i'w ddweud am arian, sef yr egwyddorion a'r anogaethau a geir ynddo ynghylch rhoi a chyfrannu. Pam y dylem gyfrannu? Faint y dylem ei roi? At beth ac i bwy? Beth ddylai'n hagwedd a'n hosgo fod wrth gyfrannu? Dyna rai o'r cwestiynau sy'n cael eu trafod a'u hateb yma. Dyma lyfr ar bwnc hollbwysig i'r bywyd Cristnogol, y tâl ei ddarllen, a'i ddefnyddio hefyd fel sail i drafodaethau mewn ysgol Sul a seiat.