- Awdur: Gwyn Davies
- Dyddiad Cyhoeddi: 1979
- Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
- Clawr Meddal
- Tudalennau: 53
'Ar ei orau', medd W. J. Gruffydd, 'Islwyn yw bardd mwyaf Cymru'. Ond yma cawn gip ar agwedd arall ar Islwyn - Islwyn y Cristion ac Islwyn y pregethwr. Yn wir, dengys yr awdur mai crefydd Islwyn yw'r allwedd i ddeall ei farddoniaeth - a hynny mewn modd braidd yn annisgwyl. Ceir goleuni hefyd ar dueddiadau arwyddocaol o fewn bywyd crefyddol Cymru yn ystod trydydd chwarter y ganrif ddiwethaf.
Seilir y llyfryn ar ddarlith a draddodwyd gyntad yn Esiteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978, i goffáu can-mlwyddiant marw Islwyn.