Geiriau Bywyd – Myfyrdodau ar ddetholiadau o eiriau ac ymadroddion y Beibl.
- gan Iwan Rhys Jones.
- 110tud.
- Clawr Meddal.
- RRP £7.99
- ISBN 978-1-85049-253-5
Gwyn ei fyd;Gras;Edifeirwch;Dydd yr Arglwydd– geiriau ac ymadroddion cyfarwydd o’r Beibl yw’r rhain i gyd, ond ydyn ni’n gwerthfawrogi eu hystyr?Mae’r gyfrol fach hon yn cynnig esboniadau clir a syml o ystyron ac arwyddocâd dros hanner cant o eiriau ac ymadroddion o’r Beibl. Gyda darlleniad priodol i gysylltu â phob gair neu ymadrodd, dau emyn, a gweddi bwrpasol, gellir defnyddio’r gyfrol ar gyfer defosiwn personol neu hyd yn oed i gynnal oedfa neu wasanaeth syml.