- Golygydd: John Emyr
- Darluniau: Rhiain M. Davies
- Dyddiad Cyhoeddi: 2001
- Cyhoeddwr: Gwasg Bryntirion
- ISBN: 9781850491828
- Clawr Caled
- Tudalennau: 216
Dyma gyfle o'r diwedd i gynulleidfa ehangach brofi dawn lenyddol Mair Eluned Davies. Yn ferch i weinidog, fe'i ganed yn Wallasey a'i magu ym Mae Colwyn a Rhosllannerchrugog. Mae ei bywyd fel merch, chwaer, gwraig, mam, athrawes a llenor yn cael ei adlewyrchu'n hynod o fyw yn y gyfrol hon.
Yn ôl yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd, mae cerddi Mair Eluned Davies 'yn ddieithriad yn mynegi profiad ysbrydol dwfn mewn modd graenus a chofiadwy...'
Yn yr ysgrifau gwelir amrywiaeth eang o destunai yn cynnwys atgofion o ymweliad ag Awstralia ac Ariannin, ymdopi â straen, sôn am 'bobl y balconi' - mewn gair, yn ôl Lyn Lewis Dafis, 'casgliad o bopeth'. Dywedodd ef hefyd fod 'Troeon yr Yrfa', yr atgofion sy'n agor y gyfrol, 'yn hynod o ddiddorol', ac yno rhydd Mair Davies ddarlun o'i bywyd personol a bywyd Cymru ar hyd canrif gyfan.
A rich collection of lyrical and personal poems and essays on a variety of subjects, together with autobiographical reminiscences, reflecting the deep spiritual experiences and convictions of the authoress. 11 photographs and 5 black-and-white pictures.