- Awdur: Noel Gibbard
- Dyddiad Cyhoeddi: 2003
- Cyhoeddwr: Gwasg Bryntirion
- ISBN: 9781850491956
- Clawr Meddal
- Tudalennau: 182
Ychydig a wyddom am emyn a phennill a thôn Diwygiad 1904-05; nid yn fynych y ceir sôn am yr unawdwyr a gynorthwyai Evan ROberts a'r pregethwyr eraill; mae casgliadau emynau yr enwadau traddodiadol yn lled hysbys, ond prin yw'r sylw a gaiff casgliadau llai cyfarwydd. Mae'r gyfrol ddiddorol hon yn codi peth o gwr llen ar y dirgelion hyn. Yn arweiniad i'r cyfan cer arolwg o'r sefyllfa cyn 1904, cyfnod Ieuan Gwyllt a Sŵn y Jwbili.
Lluniwyd emynau newydd ym mwrlwm ysbrydol dechrau'r ganrif gan rai fel Dyfed, Elfed, Nantlais a J. T. Job ac ymdrinnir â'u cyfraniad, ond un cymharol anenwog, Alaw Brycheiniog, piau un o'r caniadau mwyaf poblogaidd, sef 'A glywaist ti sôn am Iachadwr y byd'. Rhoddir sylw hefyd i'r cyfieithiadau a'r cyfieithwyr, a'r medrusaf efallai yn eu plith, William Edwards, Caerdydd a John Thomas, Lerpwl.
A'r tonau wedyn. Megis y cymerwyd gynt alawon serch a gwerin gwlad - megis 'Lovely Peggy' - a'u canu â geiriau Pantycelyn, felly, yn un enghraifft, gwnaed defnydd o alaw fel 'Sweet Genevieve' a'i datgan i eiriau David Charles. Ac fe gafwyd tonau newydd fel 'Cross Hands' a 'Daisy'. Mae sôn am hyn, a llawer mwy, yn y gyfrol hon.