Y Grym a'r Gwirionedd

Y Grym a'r Gwirionedd

Regular price
£0.99
Sale price
£0.99
Regular price
£1.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

  • Awdur: Gwyn Davies
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1978
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 56

 

Anffaeledig neu gamarweiniol? Awdurdodol neu i'w dderbyn gyda phinsiad o halen? Datguddiad gan Dduw neu ffrwyth dychymyg dynion? Dyna'r math o gwestiynau sy'n codi wrth drafod y Beibl. Gallwn gydnabod fod llenyddiaeth y Beibl gyda'r mwyaf aruchel yn y byd. Ond a ydyw'n fwy na hynny? Teg hefyd yw parchu cyfraniad y Beibl at gyfoeth a pharhad yr iaith Gymraeg. Ond pam y diddordeb mawr yn y gyfrol hon, hyn yn oed yn ein dyddiau difrau ni? Beth yn union yw'r Beibl? 

Amcan y llyfr hwn yw cyflwyno'r hyn a ddywed y Beibl amdano'i hun. Gwna'r Beibl honiadau mawr. Ond a ddylid eu credu? Sut mae eu derbyn? A sut mae mynd ati i ddarllen yr Ysgrythur yn iawn? Dyma lyfr i'r Cristion. Dyma lyfr i'r un sy'n chwilio am ffydd. Dyma lyfr a fydd o gymorth i'r sawl sydd, o bosibl, yn hen gyfarwydd ag adnodau'r Beibl ond sydd am wybod rhagor am natur ac arwyddocâd yr Ysgrythur. Pwy a ŵyr na phrofir fod grym a gwirionedd yn yr hen gyfrol o hyd?