- gan Jonathan Thomas.
- 50tud.
- Clawr Meddal.
- ISBN 978-1-85049-251-1
- RRP £3.99
Cynlluniwyd y llyfr ar gyfer Cristnogion ifainc sydd am wybod mwy am eu ffydd, ac fe’i hysgrifennwyd gyda thair sefyllfa
mewn golwg:
-
- Un person yn mynd trwy’r llyfr ar ei ben ei hun;
- Un i un (One to One), sef dau berson yn cwrdd yn rheolaidd i fynd trwy’r llyfr;
- Grŵp bychan, ar gyfer Cristnogion newydd efallai.
Nid llyfr sydd yma yn wir, ond cwrs, a nod y cwrs yw annog Cristnogion i dyfu yn Nuw.
Y bwriad yw astudio’r Beibl a’i ddeall. Byddwch yn cwrdd er mwyn dysgu, i dyfu ac i droi at Dduw ac fe’ch anogir i gael amser o rannu a gweddïo yn ystod yr astudiaeth, a bod yn bersonol ac onest wrth gymhwyso’r Beibl.
Cofiwch mai nid cwrs academaidd yw hwn, ond yn hytrach cyfle i ddysgu am y neges Gristnogol mewn ffordd ymarferol a real.