Gwefr a gogoniant efengyl Iesu Grist
- Awdur: Gwyn Davies
- Dyddiad Cyhoeddi: 1988
- Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
- ISBN: 1 85049 052 X
- Clawr Meddal
- Tudalennau: 142
Bwriad y llyfr hwn yw egluro gogoniant yr efengyl Gristnogol. Mae Duw wedi trefnu yn Iesu Grist, nid rhyw iachawdwriaeth fach ddi-nod, ond un fawr, ogoneddus a bendigedig. Ac mewn cyfnod pan fo pobl yn mynd fwyfwy anwybodus ynglŷn â beth yw'r efengyl hon mewn gwirionedd, nid oes dim pwysicach na dangos unwaith eto pa mor rhyfeddol yw hi.
Ceir atebion yma i gwestiynau megis:
- Sut y gall dyn fod yn iawn gyda Duw?
- Pam yn union y bu Iesu Grist farw?
- Beth yw ystyr etholedigaeth?
- A oes modd syrthio oddir wrth ras?
- Beth yw pen drawn 'taith y pererin'?
Mae'r cwestiynau hyn mor bwysig ac mor berthnasol heddiw ag erioed. Maent yn gwestiynau sy'n gofyn am atebion syml ac eglur. Diben y llyfr hwn yw cynnig yr atebion hyn - ac wrth wneud hynny, tynnu sylw eto at ur 'iachawdwriaeth gymaint' sydd yn Iesu Grist.