Disgwyl y Brenin

Disgwyl y Brenin

Regular price
£2.49
Sale price
£2.49
Regular price
£4.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Disgwyl y Brenin

  • gan Edmund T Owen.
  • 76 tud.
  • Clawr Meddal
  • ISBN 978-1-85049-265-8
  • RRP £4.99
‘Nid rhywbeth tebyg i erthygl mewn cyffes ffydd yn unig oedd yr ailddyfodiad i’r eglwysi cynnar, i gydolygu â hi; nid pwnc i ddadlau amdano a llunio damcaniaethau cymhleth yn ei gylch, ond yn hytrach gobaith gwynfydedig o gael cwrdd â’u hannwyl Waredwr a’i weld ‘megis ag y mae’, digwyddiad braf i edrych ymlaen ato, megis plant yn dyheu am y gwyliau, neu bobl mewn byd tywyll yn disgwyl am y wawr.’
– ‘Disgwyl y Brenin’ tudalen 23
Diau fod y paragraff hwn yn crynhoi’r weledigaeth neu’r bwriad y tu ôl i gynnwys y llyfr hwn. Yr awgrym, mae’n siŵr, yw mai ond cred ar bapur neu “erthygl mewn cyffes ffydd” yn unig yw’r ddysgeidiaeth am ailddyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist i lawer o Gristnogion heddiw. Yn lle gwefr, ceir gwahaniaethau barn. Yn lle symlrwydd a disgwyliad eiddgar, ceir cymhlethdod ymenyddol am amserau a dull.
Drwy’r llyfr hwn mae Edmund T. Owen yn ein hysgogi i fod yn debycach i’r Cristnogion yn yr eglwys fore a oedd yn byw yng ngobaith yr ailddyfodiad.