Cymwynaswyr Madagascar 1818-1920

Cymwynaswyr Madagascar 1818-1920

Regular price
£3.75
Sale price
£3.75
Regular price
£7.50
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Cyfraniad Cymru i'r dystiolaeth Gristnogol ym Madagascar
  • Awdur: Noel Gibbard
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1998
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 1 85049 156 9
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 191

Yn 1818, wedi pum fis o fordaith, glaniodd David Jones a Thomas Bevan ar ynys fechan Mauritius cyn croesi rhyw 400 milltir o fôr i Tamatave ar ynys fawr Madagascar. Fid Hydref 1920 cafwyd wythnos o gyfarfodydd yn y brifddinas, Antananarivo, i ddathlu canrif o wasanaeth cenhadol ar yr Ynys. 

Rhwng y ddau ddyddiad yna mae hanes arwrol o sefydlu ysgolion dyddiol, cyfieithu'r Beibl, pregethu'r efengyl, codi eglwysi mewn tref a gwlad, a hyfforddi gweinidogion, a hyn i gyd yn nannedd anawsterau lu. O blith eraill o Gymru a wnaeth gyfraniad nodedig y mae gwŷr megis David Johns, David Griffiths o Wynfe, Thomas Rowlands o Drefgarn, Sir Benfro, a Robert Griffith. 

Stori yw hefyd am ffyrddlondeb y brodorion Cristnogol mewn cyfnodau o erlid tost, a merthyrdod llawer iawn ohonynt o dan deyrnasiad y Frenhines Ranavalona cyn ei marw yn 1861, o gynnydd yn y dystiolaeth wedi hynny, ac am ddeffroadau ysbyrdol yn 1830-5, 1891-2, ac eto yn 1905-06 a 1909.