- Awdur: Gwyn Davies
- Dyddiad Cyhoeddi: 1984
- Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
- ISBN: 1 85049 001 5
- Clawr Meddal
- Tudalennau: 120
Yn y cofiant bywiog a darllenadwy hwn, cawn ddarlun crwn o un y gellir ei ystyried ar lawer cyfrif yn Gymro mwyaf y ddeunawfed ganrif. Gwnaeth ysgolion Griffith Jones gyfraniad aruthrol i fywyd Cymru a pharhad yr iaith Gymraed. Haedda ei barchu - a'i efelychu - pe bai ond am y gwaith yna. Ond caiff Griffith Jones y Cristion sylw yn y llyfr hwn hefyd, gan mai ei ffydd oedd wrth wraidd ei holl weithgarwch. A ninnau'n byw mewn oes sy'n prysur suddo i'r un hanner-paganiaeth ag a wynebai Griffith Jones ar ddechrau ei yrfa, pwy a ŵyr nad oes ganddo lawer eto i'w ddysgu i bobl Cymru?