- Awdur: Noel Gibbard
- Dyddiad Cyhoeddi: 1979
- Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
- ISBN: 0 900898 37 2
- Clawr Meddal
- Tudalennau: 67
Wrth feddwl am gyfnod cyffrous Piwritaniaeth yng Nghymru daw llawer enw i'r meddwl: Charles Edwards a Morgan Llwyd, dau o lenorion mawr y genedl a'u rhyddiaeth gyfoethog wedi swyno eu cyd-wladwyr ar draws y canrifoedd; Stephen Hughes, y cyhoeddwr brwd; Vavasor Powell a Walter Cradoc, y pregethwyr grymus a'r cenhadon diflino. Ond beth oedd cynnwys eu llyfrau a'u pregethau? Beth oedd y neges a'u gorfodai i ysgrifennu, a chyhoeddi, a phregethu?
Yn ein dyddiau ni ceid gwerthfawrogiad cynyddol o gyfoeth ysbrydol gweithiau'r Piwritaniaid a'r olwg dreiddgar a oedd ganddynt ar faterion y ffydd Gristnogol. Cymwynas Noel Gibbard yn y gyfrol hon yw cynnig inni grynodeb o gynnwys llyfrau'r Piwritaniaid Cymreig. Yn adran gynta'r llyfr, edrychir ar rai o'r credoau sylfaenol; eir ymlaen i gael trem ar y pynciau y buont yn dadlau'n wresog yn eu cylch; ac yn yr adran glo werthfawr, dangosir sut y cymhwysai'r Piwritaniaid eu ffydd i'w bywyd bob dydd. Trwy'r cwbl trafodir pynciau sydd o hyd o'r pwys mwyaf i'r Cristion o Gymro. Dyma lyfr, felly, y tâl ei fyfyrio.
Bydd y gyfrol hon, hefyd, yn llawlyfr hanfodol i'r sawl sydd am ddilyn trywydd golud y Piwritaniaid ymhellach. Cynhwysir digon o ddyfyniadau i roi blas y gweithiau gwreiddiol, ynghyd â chyfieiriadau manwl at y ffynonellau er cyfeirio'r darllenydd at y llyfrau gwreiddiol. Trwy fapio'r maes yn ofalus fel hyn gweithreda Elusen i'r Enaid fel allwedd i drysordy o ddarllen gwefreiddiol o'n gorffennol.