Y Gair a'r Ysbryd

Y Gair a'r Ysbryd

Regular price
£7.49
Sale price
£7.49
Regular price
£14.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

  • Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth
  • gan R. Geraint Gruffydd
  • Wedi eu dethol a’u golygu gan E. WYN JAMES
  • ISBN 978-1-85049-267-2
  • 318pp
  • £14.99
  • Clawr meddal

 Yn 2008 cyhoeddwyd Y Ffordd Gadarn, casgliad o ysgrifau byrion yr Athro R. Geraint Gruffydd ar lên a chrefydd o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Rhoddwyd croeso brwd i’r llyfr hwnnw. ‘Mae’r gyfrol yn wych o ran cynnwys ac arddull’, meddai un adolygydd, ac ym marn un arall, ‘Fe fydd ei darllen yn cyfoethogi bywyd pawb.’
Casgliad o erthyglau pwysicaf yr Athro Gruffydd ar y cyfnod rhwng tua 1640 ac 1900 yw’r gyfrol bresennol. Ynddi cawn drafodaethau golau ar rai o awduron mwyaf arwyddocaol y Gymraeg, gan gynnwys Morgan Llwyd, Williams Pantycelyn, Ann Griffiths a Daniel Owen.

Fel Y Ffordd Gadarn o’i blaen, mae’r gyfrol hon yn gyfuniad nodedig o ysgolheictod disglair, dawn dweud ac argyhoeddiad Cristnogol dwfn. Dyma lyfr dwys a difyr sy’n gyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o hanes, llenyddiaeth a chrefydd Cymru yn y cyfnod modern.
Yr oedd R. Geraint Gruffydd (1928–2015) yn un o ffigyrau amlycaf bywyd diwylliannol Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Bu’n Athro’r Gymraeg yn y Brifysgol yn Aberystwyth, yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru ac yn Gyfarwyddwr cyntaf Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Cyflawnodd waith ymchwil o’r radd flaenaf, gan gyhoeddi gweithiau o bwys ar bob cyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.
Cyn iddo ymddeol yr oedd E. Wyn James yn Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Cynnwys

 

  • Rhagymadrodd (E. Wyn James)
  • R. Geraint Gruffydd: Teyrnged (E. Wyn James)
  • William Wroth a Chychwyniadau Anghydffurfiaeth yng Nghymru
  • Morgan Llwyd
  • Gwrando ar Charles Edwards
  • Diwygiad 1762 a William Williams o Bantycelyn
  • Diwygiad Llangeitho a’i Ddylanwad
  • Drws y Society Profiad Pantycelyn
  • Marwnadau William Williams, Pantycelyn
  • John Thomas, Tre-main: Pererin Methodistaidd
  • Cefndir Meddyliol a Diwinyddol Cyfnod Ann Griffiths
  • Ann Griffiths: Llenor
  • Diwygiad 1859 yng Nghymru
  • Daniel Owen a Phregethu
  • Epilog: Cenadwri Diwygiad 1904–05
  • Llyfryddiaeth yr Athro R. Geraint Gruffydd, 1996–2015 (Huw Walters)
  • Atodiad: Rhestr o Awduron y Golofn Farddol ‘Twf Tafod’ (Huw Walters)