Porth yr Aur

Porth yr Aur

Regular price
£3.99
Sale price
£3.99
Regular price
£10.95
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Cofio J Elwyn Davies

  • golygwyd gan John Emyr
  • 157tud.
  • Clawr Meddal
  • ISBN 978-1-85049-241-2
  • RRP £10.95

Yn weinidog yr Efengyl ac Ysgrifennydd Mudiad Efengylaidd Cymru am 35 mlynedd, bu John Elwyn Davies (1925-2007) yn was ffyddlon i Iesu Grist ac yn gyfaill triw i lawer. Yn ogystal â rhagymadrodd addysgiadol ac erthyglau gwerthfawrogol, mae’r gyfrol hon yn cynnwys enghreifftiau o waith Elwyn Davies ei hun, rhai ohonynt yn ymddangos rhwng dau glawr am y tro cyntaf.

Dyma gyfrol deyrnged i’r Parchedig J. Elwyn Davies, gweinidog yr efengyl ac Ysgrifennydd Mudiad Efengylaidd Cymru am bymtheng mlynedd ar hugain. Trwy gyfrwng y gyfrol ceir cipolwg ar ei fywyd a’i waith drwy lygaid rhai oedd yn ei adnabod – boed yn gydweithwyr, ffrindiau, perthnasau ac aelodau o deulu’r ffydd Gristnogol.

Ceir tair rhan i’r gyfrol sef rhagymadrodd D. Eryl Davies sydd yn olrhain ei atgofion personol am Elwyn Davies ynghyd â rhai egwyddorion a gwirioneddau beiblaidd oedd yn holl bwysig iddo ac a fu’n sylfaen i’w fywyd, ei weledigaeth a’i waith. Yr egwyddorion hynny yw’r efengyl Gristnogol a’i adnabyddiaeth o’i Arglwydd, ysbrydolrwydd Cristnogol, undod Cristnogol ac eglwysig a diwygiad ysbrydol a gweddi. Yng ngoleuni’r gwirioneddau hynny daw un i adnabod y gweinidog, ei fywyd a’i waith. Cawn hefyd beth dadansoddi ar gyflwr ysbrydol ein heglwysi a’n gwlad wrth olrhain ei fywyd yng nghyd-destyn ei gyfnod. Cawn hefyd olwg ar galon Mudiad Efengylaidd Cymru y bu’n allweddol yn ei sefydlu a’i arwain dros flynyddoedd lawer.

Mae ail ran y gyfrol yn cynnwys teyrngedau ac atgofion cynnes, rhai wedi eu cyhoeddi eisoes yn y Cylchgrawn Efengylaidd. Ceir darluniau yn dangos y rhan bwysig roedd Elwyn Davies wedi ei chwarae yn eu bywydau. Er mai cymharol fyr yw pob cyfraniad mae pob un yn bersonol, yn adeiladol ac yn ddiddorol. Roedd Elwyn Davies wedi troi mewn nifer o gylchoedd gwahanol ac mae tystiolaeth cynifer o bobl o’i genhedlaeth ei hun ac iau, yn lleygwyr a gweinidogion, yn dweud llawer amdano. Ceir crynodeb o’i gyfraniad i fywyd ei deulu, unigolion arbennig, i’w eglwys, ei wlad a thu hwnt drwy gyfeillgarwch a gofal, drwy gyngor a phregeth a gweddi.

Yn y drydedd ran ceir rhai o ysgrifau Elwyn Davies sy’n rhoi golwg uniongyrchol ar ŵr o ffydd ac argyhoeddiadau dyfnion. Daw ei fywyd ysbrydol a’i bwyslais mawr ar weddi a’i ddirnadaeth a’i barch tuag at y Beibl i’r amlwg. Gwelwn ei galon garedig a thyner ynghyd â’i allu ymenyddol treiddgar a rhesymegol a’i ddawn naturiol i gyfathrebu gwirioneddau gair Duw.

Dyma bortread a gwerthfawrogiad cynnes o un a ddaeth i adnabod yr Arglwydd Iesu Grist ac a fu’n gweddïo a llafurio yn ddyfal i ddwyn ei gyd-Gymry i adnabod yr un Gwaredwr.

R. O. Roberts
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.