Pam Cristnogaeth?

Pam Cristnogaeth?

Regular price
£1.00
Sale price
£1.00
Regular price
£1.00
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

  • Gwynn Williams
  • ISBN 978-1-85049-268-9
  • 148x148mm
  • 28pp
  • £1.00

Rhan o gyfres ‘y ffordd’

Fel y gwyddom, mae newid mawr wedi bod yn ein cymdeithas gyda nifer y bobl sy’n honni dilyn crefydd yn lleihau ac o’r rhai sydd yn dilyn crefydd, nid Cristnogaeth yw’r unig ddewis bellach. Gyda’r fath ddewis gellir deall pobl yn gofyn pam dylen nhw roi sylw i Gristnogaeth o gwbl? Oes yna resymau da dros ddal at Gristnogaeth? Ac oes yna wahaniaeth o gwbl rhwng un grefydd a’r llall a beth yw mantais credu unrhywbeth o gwbl?

Yn y llyfryn hwn rydym yn ceisio ateb y cwestiwn ‘Pam Cristnogaeth?’ ar sail y Beibl.
Nid ymgais sydd yma i brofi neu amddiffyn y ffydd Gristnogol – yn hytrach rydym am i’r Beibl fel Gair Duw gael ei esbonio’n glir. Gwnawn hyn gan wybod fod y Beibl yn dangos y ffordd i wir fywyd. Rydym hefyd â hyder y bydd yr Un sydd wedi’n creu yn dangos, trwy ei air, ei fod yn real ac am ddod yn agos at bob un sy’n troi ato.

Os ydych chi yn chwilio am atebion i rai o gwestiynau mwyaf bywyd, beth am fynd i’r Beibl ac at Iesu i ddarganfod ei atebion. Wedi’r cyfan fe ddywedodd…
“Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd.”