Llais y Doctor

Llais y Doctor

Regular price
£4.49
Sale price
£4.49
Regular price
£8.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Detholiad o Waith Cyhoeddedig Cymraed D. Martyn Lloyd-Jones
  • Rhagymadrodd gan Noel Gibbard
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1999
  • Cyhoeddwr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 9781850491651
  • Clawr Caled
  • Tudalennau: 167

 Ar Ragfyr yr ugeinfed 1899 ganwyd y Dr D. Martyn Lloyd-Jones, neu'r 'Doctor' fel y'i gelwid gan laweroedd yn ystod ei oes. Yn 1926 troes ei gefn ar yrfa ddisglair fel meddyg yn Llundain a mynd yn weinidog yr efengyl i Sandfields, Aberafan, ac oddi yno yn 1938 i Gapel Westminster, Llundain, lle bu'n gweinidogaethu am 30 mlynedd. Cafodd rhyw ddeng mlynedd o 'ymddeoliad' i olygu nifer o gyfrolau swmpus o'i waith esboniadol. 

Meddai Emyr Roberts amdano: 'Mi greda' i y bydd ei aml gyfrolau o bregethau ymhlith trysorau parhaol Eglwys Dduw yn y canrifoedd i ddod.'

O'i gymhari â'i ddeunydd Saesneg, prin oedd ei gynnyrch Cymraeg. A dyna un elfen a rydd i'r gyfrol fechan hon, sy'n cofio canmlwyddiant ei eni, ei gwerth a'i harbenigrwydd. Ynddi, drwy gyfrwng sgwrs radio, cyfweliad, ysgrif a phregeth, ceir darlun o'i febyd yn Llangeitho a Thregaron; dadansoddiad craff o gyflwr crefydd yng Nghymru dros ran helaetha'r ugeinfed ganrif; a chip ar ŵr o argyhoeddiadau beiblaidd cadarn a'i gwnaeth - ynghyd â'i ddoniau pregethu digyffelyb - yn gawr ymhlith arwienwyr ysbrydol ei ddydd.   

A selection of his published works in the Welsh language by a doctor and theologian, minister and exponent, a tribute published to celebrate the centenary of his birth. 6 black-and-white photographs.