Iachawdwriaeth Gymaint

Iachawdwriaeth Gymaint

Regular price
£2.49
Sale price
£2.49
Regular price
£4.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Gwefr a gogoniant efengyl Iesu Grist
  • Awdur: Gwyn Davies
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1988
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 1 85049 052 X
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 142

 

Bwriad y llyfr hwn yw egluro gogoniant yr efengyl Gristnogol. Mae Duw wedi trefnu yn Iesu Grist, nid rhyw iachawdwriaeth fach ddi-nod, ond un fawr, ogoneddus a bendigedig. Ac mewn cyfnod pan fo pobl yn mynd fwyfwy anwybodus ynglŷn â beth yw'r efengyl hon mewn gwirionedd, nid oes dim pwysicach na dangos unwaith eto pa mor rhyfeddol yw hi. 

Ceir atebion yma i gwestiynau megis:
  • Sut y gall dyn fod yn iawn gyda Duw? 
  • Pam yn union y bu Iesu Grist farw? 
  • Beth yw ystyr etholedigaeth? 
  • A oes modd syrthio oddir wrth ras? 
  • Beth yw pen drawn 'taith y pererin'?

Mae'r cwestiynau hyn mor bwysig ac mor berthnasol heddiw ag erioed. Maent yn gwestiynau sy'n gofyn am atebion syml ac eglur. Diben y llyfr hwn yw cynnig yr atebion hyn - ac wrth wneud hynny, tynnu sylw eto at ur 'iachawdwriaeth gymaint' sydd yn Iesu Grist.