Dadl Grefyddol Saunders Lewis ac W. J. Gruffydd

Dadl Grefyddol Saunders Lewis ac W. J. Gruffydd

Regular price
£0.99
Sale price
£0.99
Regular price
£1.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

  • Awdur: John Emyr
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1986
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 1 85049 022 8
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 48

'Un o ddigwyddiadau mawr Cymru'r ganrif hon, yn llenyddol ac yn grefyddol, oedd dadl fawr Saunders Lewis ac W. J. Gruffydd ar dudalennau'r Llenor yn 1927. 'Anodd meddwl am ddadl ddisgleiriach yn ein llenyddiaeth ddiweddar' yw sylw yr Athro J. Gwyn Griffiths. 

Yn y ddarlith hon olrheinir y digwyddiadau a arweiniodd at y ddadl. Yna rhoddir sylw i'r gwahanol elfennau yn y ddadl ei hun, gan eu gosod yn eu cefndir ar y pryd a dangos hefyd fel y mae'r ystyriaethau a ddaw i'r amlwg yn parhau yn hynod berthnasol heddiw. 

Dadl grefyddol ydyw hon. Rhybuddia Saunders Lewis ni'n daer rhag diystyru dadleuon diwinyddol Cymru. Hwy sy'n profi ein bod yn rhan o wareiddiad Ewrop, a heb eu deall ni ellir treiddio i unrhyw adnabyddiaeth o hanes a llenyddiaeth ein gwlad. Mae'r ddadl sydd dan sylw yn y llyfr hwn, heb os nac oni bai, yn un sydd o'r pwys mwyaf i bob Cymro.'