Elusen i'r Enaid

Elusen i'r Enaid

Regular price
£1.49
Sale price
£1.49
Regular price
£2.99
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Arweiniad i Weithiau'r Piwritaniaid Cymreig, 1630-1689.
  • Awdur: Noel Gibbard
  • Dyddiad Cyhoeddi: 1979
  • Cyhoeddwyr: Gwasg Bryntirion
  • ISBN: 0 900898 37 2
  • Clawr Meddal
  • Tudalennau: 67

Wrth feddwl am gyfnod cyffrous Piwritaniaeth yng Nghymru daw llawer enw i'r meddwl: Charles Edwards a Morgan Llwyd, dau o lenorion mawr y genedl a'u rhyddiaeth gyfoethog wedi swyno eu cyd-wladwyr ar draws y canrifoedd; Stephen Hughes, y cyhoeddwr brwd; Vavasor Powell a Walter Cradoc, y pregethwyr grymus a'r cenhadon diflino. Ond beth oedd cynnwys eu llyfrau a'u pregethau? Beth oedd y neges a'u gorfodai i ysgrifennu, a chyhoeddi, a phregethu? 

Yn ein dyddiau ni ceid gwerthfawrogiad cynyddol o gyfoeth ysbrydol gweithiau'r Piwritaniaid a'r olwg dreiddgar a oedd ganddynt ar faterion y ffydd Gristnogol. Cymwynas Noel Gibbard yn y gyfrol hon yw cynnig inni grynodeb o gynnwys llyfrau'r Piwritaniaid Cymreig. Yn adran gynta'r llyfr, edrychir ar rai o'r credoau sylfaenol; eir ymlaen i gael trem ar y pynciau y buont yn dadlau'n wresog yn eu cylch; ac yn yr adran glo werthfawr, dangosir sut y cymhwysai'r Piwritaniaid eu ffydd i'w bywyd bob dydd. Trwy'r cwbl trafodir pynciau sydd o hyd o'r pwys mwyaf i'r Cristion o Gymro. Dyma lyfr, felly, y tâl ei fyfyrio. 

Bydd y gyfrol hon, hefyd, yn llawlyfr hanfodol i'r sawl sydd am ddilyn trywydd golud y Piwritaniaid ymhellach. Cynhwysir digon o ddyfyniadau i roi blas y gweithiau gwreiddiol, ynghyd â chyfieiriadau manwl at y ffynonellau er cyfeirio'r darllenydd at y llyfrau gwreiddiol. Trwy fapio'r maes yn ofalus fel hyn gweithreda Elusen i'r Enaid fel allwedd i drysordy o ddarllen gwefreiddiol o'n gorffennol.