Molwch yr Arglwydd

Molwch yr Arglwydd

Regular price
£4.99
Sale price
£4.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Emynau gan Noel Gibbard

  • Awdur: Noel Gibbard 
  • Maint: 148mm x 210mm 
  • Tudalen: 76 
  • Rhwymiad: Clawr meddal 
  • ISBN-13: 978-1-85049-276-4 
  • Pris: £4.99 
  • Dyddiad Cyhoeddi: 14 Mehefin, 2021 

“Mae’r Ysgrythur yn llawn o ganu, fel sy’n amlwg yn Llyfr y Salmau. Yn y Testament Newydd cawn ein hannog i ‘lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol’ (Effesiaid 5:19). Un o’r pethau olaf a wnaeth Iesu Grist cyn mynd i’r groes oedd canu salm. Hyderaf y bydd y casgliad hwn yn gymorth i addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” 

O’r gair o gyflwyniad gan Noel Gibbard yn y gyfrol hon o hanner cant o’i emynau.  

Brodor o Gwm Gwendraeth yw’r Parch. Ddr Noel Gibbard. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr yn Nowlais ac ym Mynea, Llanelli, ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Diwinyddol Efengylaidd Cymru ym Mryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn un o sylfaenwyr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd yn 1979, lle y bu’n henuriad ac am gyfnod yn gyd-weinidog. 

Mae’n awdur cynhyrchiol iawn ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau a llu o erthyglau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru o gyfnod y Diwygiad Protestannaidd i lawr at yr ugeinfed ganrif ac ar gyfraniad Cristnogion Cymru i ledaeniad yr efengyl ar draws y byd.  

Mae’n emynydd profiadol. Enillodd y gystadleuaeth llunio emyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1991 ac mae rhai o’i emynau wedi eu cynnwys yn y casgliad cydenwadol Caneuon Ffydd (2001).